ride hiraethog logo mountain biking rules of the trail *click for homeclick to contact ride hiraethogclick for questionnaire
*
Allan ar y llwybr

Rheolau'r Llwybr
Mae'r ffordd rydym yn beicio heddiw yn ffurfio mynediad i lwybrau beicio mynydd 'fory. Chwaraewch eich rhan yn gwarchod a gwella mynediad i'n sbort a'i ddelwedd trwy gadw at y rheolau canlynol, a luniwyd gan IMBA, y Gymdeithas Beicio Mynydd Ryngwladol. Mae'r rheolau hyn yn cael eu cydnabod ledled y byd fel cod ymarfer safonol ar gyfer beicwyr mynydd. Cenhadaeth IMBA yw hyrwyddo beicio mynydd sy'n amgylcheddol briodol a chyfrifol yn gymdeithasol.

1. Beicio ar Lwybrau Agored yn unig.
Dylech barchu lwybrau a ffyrdd sydd ar gau (gofynnwch os oes amheuaeth); dylech osgoi tresmasu ar dir preifat; gofynnwch am drwyddedau neu awdurdod arall sydd ei angen. Bydd y ffordd rydych yn beicio yn dylanwadu ar benderfyniadau a pholisïau rheoli llwybrau.

2. Peidiwch â Gadael Eich Ôl.
Byddwch yn sensitif i'r pridd dan eich olwynion. Dysgwch adnabod gwahanol fathau o bridd ac adeiladwaith llwybrau, ac ymarfer beicio effaith isel. Mae llwybrau mwdlyd a gwlyb yn haws eu niweidio. Os yw gwely'r llwybr yn feddal, ystyriwch opsiynau reidio eraill. Mae hyn hefyd yn golygu aros ar lwybrau sy'n bodoli eisoes a pheidio â chreu rhai newydd. Peidiwch â thorri ar draws igam-ogam. Sicrhewch eich bod yn pacio cymaint allan ag yr ydych yn ei bacio i mewn.

3. Rheoli eich Beic!
Gall diffyg talu sylw am eiliad yn unig achosi problemau. Ufuddhewch bob rheol ac argymhelliad beicio.

4. Ildiwch i eraill ar y Llwybr.
Gadewch i gyd-ddefnyddwyr wybod eich bod ar eich ffordd. Mae cyfarchiad cyfeillgar neu ganu cloch yn briodol ac yn gweithio'n dda: peidiwch â dychryn eraill. Dangoswch eich parch wrth basio trwy arafu neu hyd yn oed stopio. Byddwch yn barod am ddefnyddwyr eraill y llwybr o gwmpas corneli neu mewn mannau 'dall'. Mae ildio yn golygu arafu, cyfathrebu, bod yn barod i stopio os oes angen a phasio yn ddiogel.

5. Peidiwch byth â dychryn anifeiliaid.
Mae pob anifail yn dychryn os oes symudiad sydyn neu sŵn uchel. Gall hyn fod yn beryglus i chi, eraill a'r anifeiliaid. Caniatewch le ychwanegol i anifeiliaid a rhoi amser iddynt arfer efo chi. Wrth basio ceffylau, cymerwch ofal arbennig a dilyn cyfarwyddiadau gan y marchogion (gofynnwch os nad ydych yn siŵr). Mae achosi i wartheg redeg ac aflonyddu ar fywyd gwyllt yn drosedd ddifrifol. Gadewch gatiau fel y maent, neu yn unol ag unrhyw arwyddion.

6. Cynlluniwch ymlaen llaw.
Dylech fod yn gyfarwydd gyda'ch offer, eich gallu a'r ardal lle rydych yn reidio - paratowch yn unol â hynny. Dylech fod yn hunangynhaliol bob amser, cadwch eich offer mewn cyflwr da a sicrhau bod gennych gyflenwadau priodol ar gyfer newid mewn tywydd neu amodau eraill. Mae taith dda yn foddhad i chi ac nid yn faich ar bobl eraill. Gwisgwch helmed ac offer diogelwch priodol bob amser.

Parchwch – Amddiffynnwch – Mwynhewch

  • Cadw'n ddiogel – cynllunio ymlaen llaw a dilyn unrhyw arwyddion.
  • Gadewch gatiau ac eiddo fel y maent.
  • Gwarchodwch blanhigion ac anifeiliaid, ac ewch â'ch sbwriel gartref gyda chi.
  • Cedwch gwn dan reolaeth.
  • Ystyriwch bobl eraill

"Dilynwch y Cod Cefn Gwlad, ble bynnag yr ewch. De gewch chi'r gorau allan o gefn gwlad a helpu ei gynnal nawr ac i'r dyfodol"

Cedwch lwybrau ar agor trwy ddangos esiampl dda yn amgylcheddol a chymdeithasol-gyfrifol wrth feicio oddi ar y ffordd.

Mae'r canlynol yn esbonio'r Cod Cefn Gwlad ar gyfer marcio hawliau tramwy cyhoeddus, fel yr argymhellwyd gan yr Asiantaeth cefn Gwlad a Chyngor Cefn Gwlad Cymru:-

yellow arrow footpaths Mae llwybrau cerdded i gerddwyr yn unig
blue arrow bridleway Llwybr marchog – mae gennych hawl i gerdded, reidio ceffyl a beicio ar lwybr marchog. Rhaid i feicwyr ildio i gerddwyr a marchogio
orange arrow byway Cilffordd – Traciau heb eu harwynebu fel rheol. Mae'r rhain yn agored i gerddwyr, marchogion, beicwyr a rhai cerbydau modur
white arrow permissive route Llwybrau gyda chaniatâd – Nid yw'r rhain yn hawliau tramwy cyfreithiol, ond mae'r tirfeddiannwr wedi rhoi caniatâd i'r llwybr gael ei ddefnyddio am y tro
white acorn national trail Llwybr Cenedlaethol - Gelwir hefyd yn Llwybr Pell. Mae rhan o Lwybr Clawdd Offa yn rhedeg trwy Sir Ddinbych.

Dangosir llwybrau troed, llwybrau marchog a chilffyrdd ar fapiau Arolwg Ordnans. Mae'r rhain fel rheol yn gywir ond nid ydynt yn darparu tystiolaeth bod hawl tramwy gyhoeddus. Mae prawf pendant i'w gael ar y map swyddogol a gedwir gan yr Awdurdod Priffyrdd. Gellir edrych ar y map swyddogol yn y swyddfeydd Sirol a Dosbarth. Mae copïau hefyd ar gael mewn rhai Llyfrgelloedd a chan Gynghorau Cymuned.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â hawliau tramwy, yna cysylltwch gyda'r Swyddog Hawliau Tramwy, Adran Briffyrdd, Cyngor Sir Ddinbych, Caledfryn, Ffordd y Ffair, Dinbych, LL16 3RJ, Ffôn:01824 706800.

*
* click for about hiraethog
* click for ride hiraethog news
* click for mountain biking routes
* click for mountain biking facilities
search this site

Cartref | Cysylltu â ni | Holiadur | Hiraethog | Newyddion | Y llwybrau | Cyfleusterau
© Cyngor Sir Ddinbych 2005. Ymwadiad
Ebost: info@ridehiraethog.com