Wel, dyma lwybr sy'n cyfateb i'w enw. Mae'n mynd â chi o'r llyn hyfryd ger safle picnic Bod Petryal i fyny i'r gweundir agored o gwmpas Llyn Brennig. Gyda bron i 1500 medr o ddringo, byddwch wirioneddol yn gwerthfawrogi'r disgyniadau tuag at ddiwedd y reid; maent yn gwneud yr ymdrech gwerth chweil.
Mae'r llwybr gwych hwn yn mynd â chi o bentref Llanfihangel GM ar daith drwy Goedwig Clocaenog ac ymlaen i Gronfa Alwen. Yno, byddwch yn croesi'r argae a pharhau i fyny at lyn mwy Brennig, ar ffyrdd trwy'r goedwig. Ar y llwybr yn ôl, cymerwch ennyd i ddringo i fyny Craig Bron Bannog, er mwyn cael golygfeydd hynod o Eryri a Bryniau Clwyd.