| Llwybrau MTB
Y teimlad o fod yn y gwyllt sy'n gwneud beicio yn ardal Hiraethog mor arbennig.
Nid oes amheuaeth eich bod yn cael teimlad o'r 'hen ddyddiau braf' wrth feicio mynydd yma. Dyddiau pan ddefnyddid beic i fynd â chi i fannau gwych, i ddianc rhag popeth. Mae beicio yn ardal Hiraethog yn rhoi teimlad o beidio â dilyn y dorf, ond dychwelyd i feicio mynydd go iawn - ANTUR.
Mae'r ardal yn llawn bywyd gwyllt; yn sicr nid yw'n lle i fynd rownd y llwybr cyn gynted ag y bo modd, ond lle rydych yn eich cael eich hunan yn stopio bob rhyw bum munud i edmygu'r golygfeydd, ceisio adnabod bywyd gwyllt neu ymdoddi mewn teimlad o dawelwch ac anialwch.
Mae Hiraethog yn lle arbennig.
|
|
 |
| Golygfeydd 3D a hedfan trwodd |
Llwybr sy'n addas i bobl gyda lefel ffitrwydd resymol a rhai sydd mewn iechyd da. Yn gyffredinol, mae'n gysgodol ac yn llwybrau lefel isel gydag ond ychydig o ddringfeydd o unrhyw hyd. |
Mwy |
|
|
 |
| Golygfeydd 3D a hedfan trwodd |
Llwybr sy'n gorfforol heriol mewn mannau. Yn cynnwys dringfeydd sy'n anodd ond yn gymharol fyr. Mae angen safon ffitrwydd dda. Llwybrau lefel uchel a all fod yn agored i'r elfennau yn aml. |
Mwy |
|
|
 |
| Golygfeydd 3D a hedfan trwodd |
Llwybr corfforol anodd. Dringfeydd hir a pharhaus ar ei hyd. Llwybrau lefel uchel a all fod yn agored i'r elfennau yn aml. Mae lefel ffitrwydd dda yn hanfodol. |
Mwy |
|
Lefel Sgiliau
Dechreuwr
Llwybr yn isel o ran anhawster technegol. Dim profiad reidio oddi ar y ffordd yn angenrheidiol. Llwybrau yn gyffredinol ar lwybrau a thraciau da.
Canolraddol
Llwybr sydd â darnau technegol anodd. Byr a ddim yn para. Bydd y tir yn rhydd a chreigiog mewn mannau. Angen peth profiad reidio oddi ar y ffordd.
Uwch
Llwybr yn cynnwys darnau anodd hir a thechnegol. Dringfeydd a disgynfeydd serth dros dir rhydd a chreigiog. Profiad beicio oddi ar y ffordd yn hanfodol.
|
|