 |
| Uchafbwyntiau Hiraethog
Mae Mynydd Hiraethog yn dirwedd gweundir trawiadol yn cynnwys rhan ganolog a gorllewinol Gweundiroedd Dinbych, wedi ei leoli rhwng prif ddyffrynnoedd afonydd Clwyd a Chonwy yng Ngogledd Cymru. Mae'r ardal yn cynrychioli goroesiad mawr - a chynyddol brin yng Nghymru - o weundir grugog di-dor, wedi ei reoli a'i gynnal yn fwriadol fel gweundir grugiar a stad saethu yn rhan gyntaf yr ugeinfed ganrif. Mae'r rhan fwyaf o'r ardal yn dangos tystiolaeth archaeolegol o ddefnydd tir yn dyddio o oes gynhanesiol, oesoedd canoloesol a chyfnodau diweddarach.
|
|
|